Gwesty Seren

Gwesty 3* 10 ystafell wely’r cwmni ym mhentref Llan Ffestiniog gerllaw yw’r ychwanegiad mwyaf diweddar i’w weithrediadau masnachol. Agorwyd y gwesty yn 2014. Bwriad y prosiect yn benodol oedd darparu llety ar gyfer pobl ag anableddau corfforol ac anableddau dysgu. Roedd Gwesty Seren yn brosiect arloesol, yr unig gyfleuster o’i fath yng Nghymru ac mae’n parhau i fod felly. Mae’r gwesty ar gael fel cyfleuster seibiant ac mae’n rhoi profiad gwyliau i bobl anabl a’u teuluoedd a/neu eu gofalwyr sydd wedi’i deilwra’n benodol i’w hanghenion nhw. Mae’r gwesty wedi ei leoli yng nghanol Eryri, wedi’i amgylchynu gan olygfeydd sydd gyda’r gwychaf yng Nghymru i gyd. Mae’r ardal yma hefyd yn ganolfan naturiol i gyfleusterau antur ac awyr agored o safon uchel. Am fwy o wybodaeth, ewch at wefan y gwesty.