Amdanom

SEREN yw un o fentrau cymdeithasol mwyaf blaenllaw Cymru. Fe’i sefydlwyd yn 1996 a phrif nod y cwmni yw cynnig cymorth proffesiynol i bobl ag anableddau dysgu yn ne Gwynedd.

Wedi’i leoli yn hen dref chwarel Blaenau Ffestiniog, mae Seren wedi datblygu dros y blynyddoedd ac erbyn hyn, y cwmni yw ail gyflogwr mwyaf yr ardal. Ers ei sefydlu mae’r cwmni, sy’n elusen gofrestredig a chwmni cyfyngedig trwy warant, wedi gwthio cymaint o ffiniau a therfynau â phosibl er mwyn darparu gwasanaethau a chyfleusterau i’w defnyddwyr gwasanaeth sydd wedi gwella eu hansawdd bywyd. Rhan annatod o hyn fu datblygu amryw o brosiectau masnachol sy’n cynnig cyfleoedd gwaith gwerth chweil i bobl, a’u helpu nhw i ddatblygu eu hunan hyder a’u sgiliau cyfathrebu.

Mae’n darparu gofal dydd yn ogystal â chymorth gofal cartref gan staff wedi’u hyfforddi mewn iechyd a gofal cymdeithasol at Lefelau 2 a 3 y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau.

Prif athroniaeth a diwylliant cwmni Seren yw mai’r defnyddwyr gwasanaeth sy’n hollbwysig ac y dylai popeth arall droi o’u cwmpas nhw. Mae’n ymwneud â nifer o bartneriaethau, yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Mae’r cwmni, sydd wedi’i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, y corff sy’n arolygu perfformiad ac ansawdd gofal yn rheolaidd, yn gweithio’n agos iawn gydag adrannau gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Gwynedd a Chyngor Conwy. Mae 50 o ddefnyddwyr gwasanaeth yn cael cymorth rheolaidd.

Mae cwmni Seren wedi’i wreiddio’n ddwfn yn y gymuned leol ac yn rhan gwbl integredig ohoni.

Arferai Blaenau Ffestiniog fod yn gymuned chwarel lewyrchus ond gyda diflaniad y diwydiant hwnnw, dirywiodd y boblogaeth ac yn ei sgil daeth y problemau economaidd arferol. Mae’r cwmni’n chwarae ei ran yn y gwaith o adfywio’r ardal yn economaidd ac yn gymdeithasol yn cynnwys darparu gwaith i 60 o bobl. Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n byw’n lleol. Mae dros £1miliwn yn cael ei fuddsoddi yn ardal Blaenau Ffestiniog, rhwng cyflogau eu gweithwyr, a’r nwyddau a’r gwasanaethau mae Seren yn eu prynu’n lleol. Mae’r dref yn datblygu’n gyflym fel canolfan gweithgareddau awyr agored sy’n denu ymwelwyr o bob cornel o Ewrop erbyn hyn. Mae’n brolio cynnal rhai o'r prosiectau twristiaeth mwyaf uchelgeisiol yng ngogledd Cymru. Mae Seren wedi sicrhau bod defnyddwyr ei wasanaeth yn rhan gyfannol o’r gymuned fywiog yma sy’n datblygu.