Cylch yr Efail

Canolfan Gelf a Chrefft yw Cylch yr Efail. Mae’n adeilad pwrpasol ar safle hanesyddol gefail gof gynt, lle gall defnyddwyr gwasanaeth sydd â diddordeb fynd ati i ddatblygu eu sgiliau creadigol.

Mae’r Ganolfan yn cynhyrchu amrywiaeth arbennig o eitemau celf a chrefft, y mwyafrif ohonyn nhw wedi’u cynhyrchu o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu; papur, cardfwrdd a phren yn bennaf. Mae rhai o’r creadigaethau yma i’w gweld mewn orielau celf proffesiynol. Mae Cylch yr Efail hefyd yn cynhyrchu amrywiaeth o gardiau cyfarch, nwyddau hyrwyddo fel crysau-T, hwdis, crysau chwys, cylchoedd goriadau ac yn y blaen, ac yn eu gwerthu i’r cyhoedd. Mae llawer o glybiau chwaraeon lleol a sefydliadau eraill yn prynu’r nwyddau yma’n rheolaidd gan y cwmni.

Find Us

Cylch yr Efail, Dorvil Street, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3UY

Tel: 01766 831 674 Email: carol@serencyf.org


Directions

Gallery