Gweithiwr cefnogol

Published: 13.07.2021

Mae Seren Ffestiniog Cyf yn Elusen Gofrestredig, wedi ei sefydlu ers 1997, ac yn cynnig cefnogaeth a gwasaneth i unigolion efo anableddau dysgu i fyw bywydau llaw boddhad.

• Hawl i wyliau 224 awr gan gynnwys gwyliau banc i rai ar gontract llawn amser (40 awr) / pro rata os yn gwethio rhan amser.

• Tâl gwyliau uwch am weithio goramser a cysgu mewn.

• Lwfans ‘Cysgu Mewn’ Cystadleuol.

• Mae Buddion Gweithwyr yn cynnwys Buddion Gweithwyr ‘Sage’, Cynllun Iechyd Clasurol ‘Healthshield’ a cynllun disgownt gweithwyr.

Oherwydd tyfiant y cwmni drost y blynyddoedd diwethaf, mae Seren yn edrych i gynyddu ein tîm o ofalwyr.

Mae pob swydd yn gofyn am DBS – bydd costau yn cael ei dalu gan y cwmni.

Mae trwydded yrru llawn a cyfredol (yn cynnwys yswyriant busnes) yn ffafriol.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swyddi yma.

£9.00 (anghymwysiedig) / £9.20 yr awr (Cymwysiedig)

Mae profiad hanfodol o weithio yn y maes gofal yn ffafriol ond ddim yn hanfodol. Mae cymhwyster QCF lefel 2 yn ddymunol iawn, fodd bynnag, gellir darparu hyfforddiant llawn.

Er ein bod yn chwilio am oriau llawn amser (40) yr wythnos, byddem hefyd yn hapus i drafod oriau gwaith hyblyg hyd at yr oriau llawn amser. Mae oriau penwythnos a chysgu i mewn yn ofynol ar system rota wedi'i chynllunio o fewn ein timau.

Pagination

News Categories